Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth proffesiynol a chyfreithlon bob amser. Os ydych chi'n teimlo ein bod ni wedi methu â chwrdd â'r safon ddisgwyliedig, rydym am glywed gennych.
Proffesiynoldeb
Rydym wedi ymrwymo i gyflawni'r safonau uchaf posib. Mae eich adborth yn hynod o werthfawr i ni.
Parch
Byddwn yn eich trin fel unigolyn, trwy wrando arnoch, aros yn ddiduedd, a sicrhau ein bod yn ymateb i'ch pryderon yn brydlon.
Tryloywder
Byddwn yn egluro manylion ein hymchwiliad, sut y daethom i'n penderfyniad a'r camau y byddwn yn cymryd i gywiro unrhyw broblemau a chodir.
Gallwch godi cwyn gyda ni drwy e-bost, ffôn neu yn ysgrifenedig:
E-bost
[email protected]Post
Gorfodaeth y Ddraig, 1-2 Connaught House, Riverside Business Park, Benarth Rd, Conwy LL32 8UB
I'n hwyluso gydag ymchwiliad prydlon, darparwch yr wybodaeth ganlynol:
Pwysig: os ydych chi'n cysylltu â ni ar ran rhywun arall, bydd angen i chi ddarparu caniatâd ysgrifenedig gan y person hwnnw cyn y gallwn rannu unrhyw wybodaeth gyfrinachol.
Byddwn yn cydnabod eich cwyn o fewn 2 ddiwrnod gwaith. Bydd eich cwyn yn cael ei neilltuo i aelod o'n tîm a fydd yn adolygu'r mater ac yn ceisio dod o hyd i ddatrysiad prydlon. Gallant gysylltu â chi os oes angen rhagor o wybodaeth neu eglurhad arnynt am y mater dan sylw.
Rydym yn anelu i ddatrys eich cwyn yn anffurfiol o fewn 5 diwrnod gwaith. Os na allwn wneud hynny, bydd eich cwyn yn datblygu ymhellach i gam ffurfiol.
Os nad ydych chi'n hapus gyda'r canlyniad yn yr adolygiad anffurfiol, neu os nad oes modd i ni ddatrys eich cwyn o fewn 5 diwrnod gwaith, bydd eich cwyn yn datblygu at y cam ffurfiol.
Yn y cam ffurfiol, bydd aelod profiadol o'n tîm — sydd heb fod yn rhan o'r adolygiad yn y lle cyntaf — yn ymchwilio'n drylwyr ac yn briodol i'ch cwyn. Bydd hyn yn sicrhau bod yr adolygiad yn wrthrychol.
Byddwn yn anelu at roi ymateb ysgrifenedig llawn i chi o fewn 20 diwrnod gwaith. Lle mae amgylchiadau eithriadol yn gofyn am gyfnod estynedig, byddwn yn ysgrifennu atoch i egluro'r rheswm dros yr oedi a darparu amserlen ddisgwyliedig ar gyfer datrys y mater.
Os nad ydych chi'n hapus gyda'r canlyniad yn y cam ffurfiol, mae gennych yr hawl i gyfeirio eich cwyn at y Bwrdd Ymddygiad Gorfodaeth
Bwrdd Ymddygiad Gorfodaeth (ECB)
10 Queen Street Place, Llundain EC4R 1BE
Ffôn: 0844 893 3922
[email protected]Os yw eich cwyn i gyd neu ran ohoni yn ymwneud â diogelu data, yn anffodus y mae hwn y tu hwn i ddarpariaeth y gwasanaeth hwn. Bydd cwyn yn ymwneud â diogelu data yn cael eu trin ar wahân a byddwn yn anelu i ymateb o fewn un mis. Mae gennych hefyd yr hawl i gyfeirio materion diogelu data at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn ico.org.uk neu drwy ffonio 0303 123 1113.
Gall y sefydliadau canlynol ddarparu cyngor a chymorth annibynnol am ddim:
Cyngor ar Bopeth
Cyngor annibynnol, cyfrinachol a diduedd am ddim ar eich hawliau a'ch cyfrifoldebau.
www.citizensadvice.org.ukLloegr: 0345 404 0506 | Cymru: 0344 477 2020
Elusen Ddyledion StepChange
Cyngor am ddim i unigolion sydd angen cymorth i reoli eu dyledion.
www.stepchange.org0808 138 1111
Llinell Ddyled Genedlaethol
Cyngor dyled am ddim sy'n gyfrinachol ac annibynnol dros y ffôn neu e-bost. Ar gael Ddydd Llun i Ddydd Gwener 9yb–8yh, Dydd Sadwrn 9:30yb–1yh.
www.nationaldebtline.org0808 808 4000
MoneyHelper
Canllawiau ariannol a gefnogir gan y Llywodraeth sy'n uno Gwasanaeth Cynghori Ariannol, y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau a Chwmni Pension Wise.
www.moneyhelper.org.uk0800 138 7777